OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2777 (Cy. 283)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 21B a 40 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (“Deddf 1990”).
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu rhagflaenu gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, a fewnosododd adran 21B yn Neddf 1990.
Mae adran 21B o Ddeddf 1990 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer rhai achosion yng Nghymru, sef achosion ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hatgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 20 ac apelau o dan adran 21 o Ddeddf 1990. Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r weithdrefn ar gyfer achosion o’r fath cyn diwedd y cyfnod rhagnodedig.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi mai saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol yw’r cyfnod hwnnw, sy’n cael ei ddiffinio at y dibenion hyn.
Paratowyd asesiad effaith mewn perthynas â’r offeryn hwn. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 2777 (Cy. 283)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod Rhagnodedig) (Cymru) 2014
Gwnaed 14 Hydrefr 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Hydref 2014
Yn dod i rym 12 Tachwedd 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 21B([1]) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 40([2]) o’r Ddeddf honno, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio
(Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cyfnod
Rhagnodedig) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 12 Tachwedd 2014.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.
Cyfnod rhagnodedig
2.—(1)(1) Saith niwrnod gwaith o’r dyddiad perthnasol
yw’r cyfnod rhagnodedig at ddibenion adran 21B(3) o Ddeddf
1990.
(2) Ym mharagraff (1)—
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru; ac
ystyr “y dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—
(a) o ran atgyfeiriadau o dan adran 20([4]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r atgyfeiriad gan yr awdurdod sylweddau peryglus; a
(b) o ran apêl o dan adran 21([5]) o Ddeddf 1990, y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o’r apêl ynghyd ag unrhyw wybodaeth a ragnodir.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
14 Hydref 2014
([1]) 1990 p. 10. Mewnosodwyd adran 21B o Ddeddf 1990 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2014, O.S. 2014/2773 (Cy.280).
([2]) Mae diwygiadau i adran 40 o Ddeddf 1990 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
([3]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990.